30 research outputs found
Amrywio ffonolegol (ai) yn y sillaf olaf ddiacen yng Nghymraeg Caerdydd
Yn yr erthygl hon, cyflwynir dadansoddiad meintiol o amrywio ffonolegol (ai) yn y sillaf olaf ddiacen mewn perthynas â’r orgraffynnau, ac yng Nghymraeg Caerdydd. O ganlyniad i ddiffyg ymchwil ar Gymraeg Caerdydd, nid yw’n glir pa ffurf neu ffurfiau sy’n gyffredin ar gyfer (ai) yng Nghaerdydd erbyn hyn, a bydd yr erthygl hon yn cyflwyno darlun cyfredol o’r nodwedd hon trwy archwilio effaith cyffyrddiad tafodieithol a safoni ar Gymraeg Caerdydd. Ceir hefyd ddadansoddiad o ystod o ffactorau ieithyddol a chymdeithasol sy’n effeithio ar amrywio (ai) yn y sillaf olaf ddiacen yng Nghymraeg Caerdydd. Mae’r erthygl hefyd yn ystyried goblygiadau ffurfio tafodiaith newydd yng nghyd-destun adfywio ieithyddol.This paper presents a quantitative analysis of the phonological variation of
(ai) in final unstressed syllables with regard to the orthographic , and in
Cardiff Welsh. Due to a lack of research on Cardiff Welsh, it is unclear what form or forms
are common for (ai), and this paper presents a contemporary analysis of this feature by
examining the effect of dialect contact and standardization on Cardiff Welsh. An analysis of
a range of linguistic and social factors affecting (ai) variation in final unstressed syllables in
Cardiff Welsh is also presented. This paper also considers the implications of forming new
dialects in the context of language revitalization
Astudiaeth o amrywio ieithyddol yng nghyd-destun adfywio ieithyddol yng Nghymraeg Caerdydd
Mae’r traethawd hwn yn dadansoddi amrywio ieithyddol ymysg siaradwyr Cymraeg dwyieithog mewn ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd. Lleolir yr ymchwil yng nghyd-destun adfywio ieithyddol yng Nghaerdydd lle nad oes tafodiaith draddodiadol yn bodoli bellach wedi dirywiad y Wenhwyseg. Mae cyffyrddiad tafodieithol gydag amrywiadau tafodieithol traddodiadol oherwydd adfywio ieithyddol ac ymfudo siaradwyr yn ogystal â chyffyrddiad ieithyddol gyda’r Saesneg felly ar waith yma. Mae’r ymchwil hwn yn cyfrannu at gorff o ymchwil blaenorol ar y Gymraeg trwy ddefnyddio dulliau ethnograffegol y drydedd don er mwyn archwilio effaith strwythurau cymdeithasol ar Gymraeg Caerdydd.
Nod cyntaf yr astudiaeth hon yw dadansoddi effaith ystod o ffactorau ieithyddol a chymdeithasol ar iaith disgyblion Ysgol Uwchradd Gymraeg Caerdydd. Mae canfod effaith
ystod o ffactorau cymdeithasol yn gyffredin mewn ymchwil sosioieithyddol ac mae ymchwil blaenorol wedi canfod bod ffactorau megis iaith yr aelwyd a rhywedd yn gallu effeithio ar amrywio yn y Gymraeg (Morris 2013, 2017, 2021). Mae astudiaethau eraill wedi canfod nad oes gwahaniaethau rhwng disgyblion o wahanol gefndiroedd ieithyddol neu strwythurau
cymdeithasol (Mayr et al. 2017, Mennen et al. 2020). Oherwydd hynny, ail nod yr astudiaeth hon yw archwilio effaith rhwydweithiau cymdeithasol ar amrywio ieithyddol y disgyblion trwy ddefnyddio’r cysyniad o gymunedau a chlystyrau arfer (Lave a Wenger 1991; Wenger 1998). Mae cymunedau a chlystyrau arfer yn nodweddiadol mewn ymchwil ethnograffegol sy’n nodweddiadol o waith sosioieithyddol trydedd don (Eckert 2012).
Bodola Cymraeg Caerdydd yng nghyd-destun adfywio ieithyddol, felly bydd yr ymchwil hwn yn cyfrannu at gorff o waith ar amrywio ieithyddol mewn cyd-destun adfywio ieithyddol yn ogystal (e.e. Nance 2013; Kasstan 2017; Mooney 2019). O ystyried hynny, nod olaf yr astudiaeth hon yw canfod effeithiau posibl cyd-destun o adfywio ieithyddol yn
berthnasol i gyffyrddiad ieithyddol a chyffyrddiad tafodieithol. Mae cyffyrddiad ieithyddol yng nghyd-destun adfywio ieithyddol yn aml yn arwain at drosglwyddo o’r iaith fwyafrifol i’r iaith leiafrifol (Jones 1998; King et al. 2009; Nance 2013). Yn berthnasol i gyd-destun Caerdydd, bydd cyffyrddiad tafodieithol ag amrywiadau’r tafodieithoedd traddodiadol yn ogystal â safoni posibl (Thomas 1991, Jones 1998) o ddiddordeb i’r ymchwil hwn yn ogystal.
Cafodd y data ei gasglu trwy gyfweliadau sosioieithyddol a thasg rhestr geiriau gan 24 o ddisgyblion uwchradd Cymraeg 14–15 oed. Fe gasglwyd gwybodaeth ddemograffegol ar y disgyblion cyn rhannu’r sampl yn gyfartal ar sail iaith aelwyd a rhywedd. Cafodd y disgyblion eu harsylwi trwy ddulliau ethnograffegol yn ogystal.
Dengys yr ymchwil fod llafariaid caeedig cefn Cymraeg Caerdydd yn blaenu. Gellid dweud bod /u(:)/ yn blaenu i safle eithaf blaen, a /ʊ/ i safle ganol, fel y gwelir mewn
amrywiadau o dde Lloegr (Ferragne a Pellegrino 2010, t. 28). O safbwynt uchder y llafariaid, trwy gymharu â data blaenorol (Ferragne a Pellegrino 2010, t. 28; Mayr a Davies 2011; Mayr et al. 2017) gellid dweud bod ansawdd mwy agored gan lafariaid caeedig cefn disgyblion Ysgol Uwchradd Gymraeg Caerdydd, na mewn amrywiadau Saesneg yng Nghymru ac
amrywiadau Cymraeg mwy traddodiadol. Cafwyd amrywio ar sail arddull trwy’r dadansoddiad tasg, a ddengys ansoddau amrywiol mewn cyd-destunau a oedd yn amrywio mewn ffurfioldeb. Nid oedd iaith yr aelwyd yn effeithio ar amrywio yn y dadansoddiadau effeithiau cymysg, sy’n cyd-fynd ag ymchwil diweddar ar y Gymraeg lle nad yw’r Gymraeg yn
iaith gymunedol gref (Mayr et al. 2017).
O safbwynt yr ail nodwedd, gwelir mai’r /ai/ safonol yw’r amrywiolyn mwyaf cyffredin gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Gymraeg Caerdydd. Mae’r canlyniad hwn yn cyd-fynd â chanlyniadau Jones (1998) yn Rhosllannerchrugog a Rhymni lle’r oedd defnydd o’r amrywiolyn safonol ar gynnydd ymysg pobl ifanc yno hefyd. Gwelir yn nadansoddiad y ffactor arwyddocaol tasg fod cyfradd uwch o’r amrywiolyn tafodieithol traddodiadol /ɛ/ mewn sgwrs ddigymell na’r amrywiolyn safonol /ai/. Felly ceir amrywio ffonolegol ar sail arddull yn iaith disgyblion YUGC, a olyga fod disgyblion YUGC yn berchen ar wahanol arddulliau a chyweiriau yn y Gymraeg.
Nid oedd clwstwr arfer na rhywedd yn effeithio ar y naill nodwedd dan sylw yn yr ymchwil hwn. Golyga hyn nad oedd y ddwy ffactor a welir mewn ymchwil blaenorol sy’n ymwneud â rhwydweithiau cymdeithasol yn ffactorau arwyddocaol yn yr ymchwil hwn. Roedd effaith iaith yr aelwyd yn amrywio. Roedd yn arwyddocaol ar gyfer newidyn (ai) yn y sillaf olaf ddiacen, ond nid oedd yn arwyddocaol ar gyfer y llafariaid caeedig cefn. Yn olaf, gwelir gwahanol oblygiadau ar gyfer damcaniaeth ffurfiant tafodiaith newydd yng nghyd-destun adfywio ieithyddol yn yr ymchwil hwn. Nid ymddengys bod amrywiad Cymraeg Caerdydd yn ffocysu ac mae’n debygol bod hynny oherwydd y cyd-destun o adfywio ieithyddol
Phonological variation of (ai) in the final unstressed syllable in Cardiff Welsh
Yn yr erthygl hon, cyflwynir dadansoddiad meintiol o amrywio ffonolegol (ai) yny sillaf olaf ddiacen mewn perthynas â’r orgraffynnau , ac yng Nghymraeg Caerdydd. O ganlyniad i ddiffyg ymchwil ar Gymraeg Caerdydd, nid yw’n glir pa ffurf neu ffurfiau sy’n gyffredin ar gyfer (ai) yng Nghaerdydd erbyn hyn, a bydd yr erthygl hon yn cyflwyno darlun cyfredol o’r nodwedd hon trwy archwilio effaith cyffyrddiad tafodieithol a safoni ar Gymraeg Caerdydd. Ceir hefyd ddadansoddiad o ystod o ffactorau ieithyddol a chymdeithasol sy’n effeithio ar amrywio (ai) yn y sillaf olaf ddiacen yng Nghymraeg Caerdydd. Mae’r erthygl hefyd yn ystyried goblygiadau ffurfio tafodiaith newydd yng nghyddestun adfywio ieithyddol.: This paper presents a quantitative analysis of the phonological variation of(ai) in final unstressed syllables with regard to the orthographic , and in Cardiff Welsh. Due to a lack of research on Cardiff Welsh, it is unclear what form or forms are common for (ai), and this paper presents a contemporary analysis of this feature by examining the effect of dialect contact and standardization on Cardiff Welsh. An analysis of a range of linguistic and social factors affecting (ai) variation in final unstressed syllables in Cardiff Welsh is also presented. This paper also considers the implications of forming new dialects in the context of language revitalization
Standardization, fudging and hypercorrection: Dialect levelling of the EARS lexical set in South East Wales
Pushing boundaries in the measurement of language attitudes: enhancing research practices with the L'ART Research Assistant app
The importance of methodological developments has recently been emphasised both in language attitude research specifically (Kircher & Zipp 2022), and across linguistics and the social sciences more broadly, where there has been a particular focus on replicability (Sönnig & Werner 2021; Kobrock & Roettger 2023). One aspect of this concerns the adoption of more open, consistent, and comparable implementations of method.
We introduce a new digital application (the L’ART Research Assistant) for research in multilingualism and language attitudes. Designed specifically for work with populations speaking a majority and a regional/minority/minoritised/heritage language, the app implements reference versions of some common research methods and tasks. This benefits the research community by enhancing consistency and comparability within and across studies and by improving replicability and reproducibility.
We discuss technical and methodological considerations behind the app and illustrate its use with a brief case study of language attitudes across three European communities whose regional/minority languages receive radically different degrees of socio-political recognition: Lombard (Italy), Moselle-Franconian (Belgium), and Welsh (UK). The case study demonstrates not only how the app facilitates research across different communities that is easily comparable, results also reveal fundamental differences in attitude scores depending on the methods employed (AToL v. MGT). Consequently, we argue that there is a need to move toward both the adoption of more consistent, comparable methods as well as toward a more holistic approach to measuring language attitudes, where a battery of tests — as opposed to a single measure — should become the norm
Welsh accents and social identity: A study on perceptions of new and traditional speakers
This paper presents the results of an accent rating study of Welsh in which 59 raters were asked to listen to speech samples of three speaker groups (Welsh home language speakers, immersion education learners, and adult learners). The study aimed to ascertain (a) whether these groups are identifiable based on their accents, (b) how raters evaluate the three speaker groups socially, and (c) what phonetic features they associate with them. The results revealed that all groups could be identified well above chance and received positive social evaluations. However, traditional speakers were correctly identified significantly more often and were perceived more favorably in the social evaluations. In the feature analysis, new speakers’ accents were largely described as deviant from traditional speakers’ although some distinctive patterns were also identified. These findings have important implications for discussions surrounding accent bias and the perception of new speakers’ accents in the context of minority language revitalization
L’ART Research Assistant
This is a first pre-release for 0.5.3, with LSBQe options for code-switching and read/write questions enabled, as well as a new mostly-complete Putonghua localisation of the LSBQe. Not suitable for production use
A matter of strength: Language policy, attitudes, and linguistic dominance in three bilingual communities
This article investigates the relationship between language attitudes and different bilingual language policies in three European communities where a regional/minority language is spoken: (1) the Lombard – Italian community in Italy, where Lombard does not benefit from any active policy; (2) the Moselle-Franconian – German community of the Belgian Eifel, where Moselle-Franconian speakers are a recognised linguistic minority, albeit as German-speaking, with Moselle-Franconian indirectly supported as a closely related German variety; and (3) the Welsh – English community in Wales, where the Welsh language enjoys full sociopolitical recognition. In two studies that combine a direct and an indirect method, we collected attitudinal data from a total of N = 235 participants (aged 23–38 years) across three locations. Results suggest a link between language policy and speakers’ attitudes, with Welsh scoring higher than both Moselle-Franconian and Lombard, and Moselle-Franconian scoring higher than Lombard. This trend is explained in view of a tripartite model that places horizontal bilingualism as the most positive societal situation for language maintenance, followed by diglossia, and with vertical bilingualism as the least desirable case
Modeling Language Attitudes: Attitudinal Measurements and Linguistic Behavior in Two Bilingual Communities
This paper investigates whether attitudinal measures can predict usage in two bilingual communities with radically different language policies. We compare 163 participants’ (ages 24–36) rates of spontaneous language usage to two attitudinal measures among Welsh—English and Lombard—Italian bilinguals. Usage rates are found to correlate with Matched Guise Technique status scores for Lombard and to predict solidarity scores for Welsh. A different picture emerges from the Implicit Association Test, with scores correlating with usage for Welsh but not for Lombard. We link these findings to the radically different levels of sociopolitical support associated with the regional/minority languages and the nature of the two attitudinal measures. Our findings suggest that the utility of different attitudinal measures depends partly on sociopolitical circumstances and on the type of association intrinsically addressed in each measure. These have important implications for both the study of language attitudes and research on language vitality
Defnyddio'r Gymraeg mewn Cymunedau yn Ynys Mon
Ym Mawrth 2022 comisiynwyd Prifysgol Bangor (Hodges a Prys) i gynnal astudiaeth ymchwil ar ran Cyngor Sir Ynys Môn a Menter Iaith Môn i archwilio´r defnydd o’r iaith Gymraeg ar Ynys Môn. Diben yr astudiaeth ymchwil oedd ychwanegu at ddealltwriaeth y comisiynwyr o sut mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn cymunedau ar Ynys Môn. Lluniwyd y prosiect ymchwil fel rhan o´r elfen ‘Iaith Môn’ o raglen Adfywio Môn drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y Deyrnas Unedig i astudio’r cyfleoedd a´r heriau amrywiol a wyneba cymunedau Ynys Môn wrth geisio cynnal ac adfywio’r Gymraeg yn gymunedol. Clustnodwyd amserlen ymchwil o Ebrill i Ragfyr 2022 er mwyn cwblhau’r astudiaeth ymchwil.<br/
